Cyhoeddi Enillydd Gwobr Lleufer Thomas

Wedi ei bostio ar 13 Gorffennaf 2010
books
Mae’n dda gennym gyhoeddi mai Lois Prysor Jones o Arenig yn y Bala fydd yn derbyn Gwobr Hanes Lleufer Thomas, Prifysgol Cymru, eleni.

Disgrifiwyd Lois gan John Gwynfor Jones, arholwr allanol ar hanes Cymru, a gefnogodd enwebiad Lois am y Wobr, fel merch ‘llawn gwybodaeth ac aeddfedrwydd, a ddangosodd allu sylweddol yn ei hymdriniaeth, ei dehongliad a’i dadansoddiad o dystiolaethau hanesyddol.’

 hithau wedi graddio’r haf hwn o Brifysgol Bangor, gyda dyfarniad gradd Prifysgol Cymru dosbarth cyntaf gydag anrhydedd mewn Cymraeg a Hanes Cymru, bydd Lois yn derbyn gwerth £500 o docynnau llyfrau. Nid oes unrhyw gyfyngu ar y math o lyfrau y gellir eu prynu, boed nhw’n academaidd neu er mwynhad, ond gobeithir yn fawr y byddant o gymorth i gynnal cariad y derbynnydd tuag at lenyddiaeth.

Daw’r Wobr ei hun o incwm a dderbynnir o swm a roddwyd i Brifysgol Cymru gan Mr D Gethin Williams er cof am Syr Daniel Lleufer Thomas MA (Rhyd) Anrh/HonLLD (Cymru), Is Ddirprwy-Ganghellor 1915-17.

Dylai ymgeiswyr am y Wobr fod yn fyfyrwyr sy’n astudio Hanes Cymru fel rhan o’r arholiad ar gyfer gradd gydag Anrhydedd; dyfernir y Wobr yn flynyddol i’r ymgeisydd sydd, ym marn yr arholwr allanol mewn Hanes Cymru, wedi cyrraedd y safon uchaf. Pe digwydd bod dau ymgeisydd o safon cydradd ac o ragoriaeth digonol, gellir rhannu’r Wobr.

O dderbyn ei gwobr, dywedodd Lois:

‘Hyfrydwch a braint yw derbyn Gwobr Lleufer Thomas. Fe fydd y Wobr yn ddefnyddiol iawn imi’r flwyddyn nesaf pan ymgymeraf â gradd ôl-radd mewn addysgu ym Mangor.’

/Diwedd

Nodiadau i Olygyddion:

Ceir ceisiadau am Ysgoloriaethau Prifysgol Cymru yma: www.cymru.ac.uk/en/Scholarships/ScholarshipRecords.aspx|

Am fwy o wybodaeth am Brifysgol Cymru, ewch at: www.cymru.ac.uk|

Am wybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu, Prifysgol Cymru: t.barrettcymru.ac.uk|

02920 376991

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori