Prifysgol Cymru'n croesawu Deon i Gyfadran y Celfyddydau a Dyneiddiau

Wedi ei bostio ar 16 Awst 2010
linden3

Linden Peach

Mae’n bleser gennym groesawu’r Athro Linden Peach i Brifysgol Cymru, yn Ddeon Gyfadran y Celfyddydau a Dyneiddiau sydd newydd ei chreu.

Daw’r Athro Peach atom o Brifysgol Edge Hill. Ef yw Athro’r Saesneg yno ac mae’n gyfrifol am ddarpariaeth Ymchwil ac Ôl-radd Cyfadran y Celfyddydau a Gwyddorau.

Cyn ei benodi i Edge Hill, bu mewn uwch swyddi mewn amryw o brifysgolio, gan gynnwys Northumbria, Swydd Gaerloyw, Loughborough – lle y dyfarnwyd cadair bersonol iddo gyntaf mewn Llenyddiaeth Gyfoes - Prifysgol Bretton Hall yn Leeds a Choleg Prifysgol Goldsmiths, Llundain.

Ag yntau wedi dysgu mewn dwy o ganolfannau addysg uwch mwyaf nodedig Llundain, Coleg Oedolion a Chymunedol Richmond a Choleg Goldsmiths, bu gan yr Athro Peach ymrwymiad erioed i ymestyn cyfranogaeth. Yn dyst i’w ymroddiad, mae’r ffaith iddo gyflwyno’r cyrsiau mynediad cyntaf ym Mhrifysgol Llundain, gan gynnwys cwrs mynediad cyfryngau, a gyllidwyd gan fwrdeistrefi de Llundain, gyda’i ffocws ar amrywiaeth.

Gellid dweud bod yr Athro Peach yn dyfod adref, gan iddo gael ei eni a’i fagu yng Nghaerdydd. Addysgwyd ef yn Ysgol Uwchradd Canton ac aeth yn ei flaen i astudio am BA a PhD yn Saesneg yn yr hyn a oedd bryd hynny yn Brifysgol Cymru Aberystwyth. Mae’n adnabyddus am ei waith ar ysgrifennu o Gymru yn Saesneg a chyn bo hir fe gyhoeddir ei lyfr newydd ar Emyr Humphreys gan Wasg Prifysgol Cymru. Mae’n Gymrawd o’r English Association, yn aelod o’r Academi Gymreig ac yn Gymrawd Ymchwil Er Anrhydedd o Brifysgol Abertawe.

Dywedodd yr Athro Peach:

'Rwy’n edrych ymlaen at ymuno â Phrifysgol Cymru a chymryd y rôl newydd a hanfodol hon. Bu’r celfyddydau a dyneiddiau yn gryf yng Nghymru erioed a theimlaf hi’n fraint cael y cyfle i gyfrannu i ddatblygiad cenedlaethol a rhyngwladol y Brifysgol i’r dyfodol.'

Ychwanegodd yr Athro Marc Clement, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru:

“Mae’n amser cyffrous i Brifysgol Cymru ac rydym wedi bod yn hynod ffodus i benodi’r Athro Linden Peach i’r swydd ganolog hon yn ein Cyfadran newydd anedig. Daw’r Athro Peach â’r cyfuniad o brofiad, gwybodaeth a greddf greadigol sydd ei angen ar gyfer meithrin yr ansawdd gorau o fewn amgylchedd, sy’n fythol ddatblygu’n un sydd wedi ei ganoli ar fyfyrwyr, ac rwyf wrth fy modd ei fod wedi dewis gweithio gyda Phrifysgol Cymru.”

/Diwedd

Nodiadau i Olygyddion:

Am fwy o wybodaeth am Brifysgol Cymru ewch at: www.cymru.ac.uk|
Am wybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu, Prifysgol Cymru, os gwelwch yn dda: t.barrettcymru.ac.uk|

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori