Wedi ei bostio ar 28 Mai 2010

David Griffiths
Daeth meysydd Gwyddoniaeth a’r Celfyddydau at ei gilydd ddydd Gwener, 28 Mai, yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd, lle derbyniodd dau ŵr sydd ar frig eu harbenigeddau raddau er anrhydedd gan Brifysgol Cymru. Eleni derbyniodd y ffisegwr Dr Lyndon Evans, a’r arlunydd portreadau, David Griffiths, yr anrhydedd mewn seremoni wobrwyo i gydnabod eu llwyddiannau.
Mae Dr Lyn Evans wedi sefydlu gyrfa yn adeiladu peiriant i atgynhyrchu dirgelwch oesol y “glec fawr”, tra bo David Griffiths, yr arlunydd, wedi gwneud ei enw yn paentio portreadau o enwogion a ffigurau Brenhinol. Mae gan y ddau ŵr gysylltiadau cryf â Chymru, er eu bod wedi byw bywydau gwahanol iawn i’w gilydd.
Ganwyd Dr Lyn Evans yn Aberdâr ym 1945, ac aeth i Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Aberdâr ac yna ymlaen i Brifysgol Abertawe i astudio Ffiseg. Wedi cwblhau ei radd, arhosodd yn Abertawe i ymchwilio i ryngweithio ymbelydredd laser dwys â nwyon, a dyfarnwyd PhD iddo mewn ffiseg gan Brifysgol Cymru ym 1970.
Geneva oedd ei gyrchfan nesaf, lle treuliodd ddwy flynedd yn gweithio fel cymrawd ymchwil yn Labordy Ffiseg Gronynnau Ewrop (CERN). Ym 1971 ymunodd â thîm Syr John Adams i adeiladu cyflymwr gronynnau mawr y 1970au, y Syncrotron Protonau Mawr. Ers hynny, bu’n gweithio ar holl brosiectau mawr CERN, gan adeiladu enw da yn fyd-eang fel arbenigwr eithriadol ar gyflymwyr gronynnau.
Mae Dr Evans wedi treulio 15 mlynedd diwethaf ei yrfa yn arwain y tîm rhyngwladol sy’n adeiladu’r Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr, a gydnabyddir yn eang fel y peiriant gwyddonol mwyaf cymhleth a adeiladwyd erioed. Mae’r gwaith hwn wedi dal dychymyg pobl yn fyd-eang, ac os bydd yn cyflawni ei amcanion, bydd yn datgloi cyfrinach ffiseg gronynnau a’i effaith ar rymoedd natur. Mae wedi derbyn llawer o wobrwyon yn ystod ei yrfa gan gynnwys CBE yn 2001.
Wrth dderbyn ei Radd er Anrhydedd, dywedodd Dr Lyn Evans:
‘Mae’n 41 o flynyddoedd ers i mi dderbyn gradd gan Brifysgol Cymru ac mae derbyn gradd er anrhydedd ar ôl yr holl amser hwn yn fraint eithriadol. Ar ôl byw allan o Gymru cyhyd rwy’n falch nad yw’r Brifysgol wedi anghofio amdanaf i.’
Magwyd David Griffiths yng Ngogledd Cymru, er iddo gael ei eni yn Lerpwl. Hyfforddodd yn Ysgol Gelf Gain Slade, Coleg y Brifysgol, Llundain, dan gyfarwyddyd Syr William Coldstream, Syr Ernst Gombrich a Syr Anthony Blunt. Wedi graddio o Ysgol Gelf Gain Slade sefydlodd ei hun yn fuan iawn fel un o artistiaid blaenllaw’r genedl. Heddiw cydnabyddir David fel y paentiwr portreadau gorau yng Nghymru ac mae wedi datblygu arddull arloesol, arbennig a hynod bersonol wrth bortreadu enwogion Cymreig yng Nghymru a thu hwnt.
Mae wedi paentio portreadau o rai o ffigurau mwyaf blaenllaw cymdeithas gyfoes ac ymhlith y bobl sydd wedi eistedd iddo mae: yr Is-Iarll Tonypandy, y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Callaghan, cyn-Brif Weinidog y DU; Bryn Terfel; Syr Geraint Evans; Barry John a Sian Philllips. Ei bortread o’r Tywysog Charles ar adeg ei arwisgo yn Dywysog Cymru ym 1969 a ddaeth ag ef i amlygrwydd a hwn yw un o’i ddarnau mwyaf adnabyddus o hyd.
Wrth dderbyn ei anrhydedd dywedodd David Griffiths:
“Mae’n fraint ac anrhydedd i dderbyn y dyfarniad hwn. Hoffwn feddwl fod yr anrhydedd yma hefyd yn cydnabod traddodiad hir a mawreddog o baentio portreadau yng Nghymru. Os mae hefyd yn cefnogi fy ngalluoedd i feithrin celf ffigurol, yna ‘rwyf yn mawr obeithio bydd yn annogaeth i fyfyrwyr celf ddatblygu eu sgiliau arsylwi trwy waith portreadu.”
Wrth groesawu’r ddau ffigur clodfawr hyn i blith Graddedigion Anrhydeddus Prifysgol Cymru, dywedodd Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro Marc Clement:
“Mae Prifysgol Cymru yn falch i ddathlu gwaith arbennig dau berson sydd yn dod o ddwy ddisgyblaeth cwbl wahanol ond sydd wedi dangos y talent anhygoel a’r gwaith caled sydd yn angenrheidiol i ennill cydnabyddiaeth yn eu meysydd. Mae’n bleser arbennig gennyfi gyflwyno’r dyfarniadau yma yn ystod ein dathliadau i’n graddedigion rhyngwladol newydd, sy’n rhoi enghreifftiau disglair iddynt o’r hyn y gellid ei gyflawni yn eu gyrfaoedd hwythau hefyd.”
/Diwedd
Nodiadau i Olygyddion:
I gael rhagor o wybodaeth am Brifysgol Cymru: www.cymru.ac.uk|
I gael gwybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysyllter â Tom Barrett, Swyddog Cysylltiadau, Prifysgol Cymru: t.barrettcymru.ac.uk| 02920 376991