Wedi ei bostio ar 9 Ebrill 2010
Mae Prifysgol Cymru yn cynnig y cyfle i'n graddedigion i archebu fersiwn mwy addurniedig o'u tystysgrif gradd i gofio am eu hamser gyda ni yn y Brifysgol.
Mae'r tystysgrifau arddangos hardd yma wedi'u creu'n unigol ac wedi'u cynhyrchu ar bapur safonol gyda chaligraffi llaw yn cynnwys arflun y Brifysgol a llofnod ein Is-Ganghellor. Mae gennych ddewis o dderbyn eich tystysgrif naill ai'n y Gymraeg neu'r Saesneg a byddwch yn ei derbyn wrthom trwy bost arbennig. Yr union beth i'ch hatgoffa am eich camp yn ennill eich gradd ac am eich amser gyda ni.
I archebu'ch tystysgrif arbennig nawr, ewch i'n siop ar-lein: http://tystarddangos.wales.ac.uk/|