Cyhoeddi Cymrodoriaethau Addysgu cyntaf Prifysgol Cymru

Wedi ei bostio ar 10 Chwefror 2010
matterseystudentscrop

Gawsoch chi erioed eich ysbrydoli gan Athro gwych, a theimlo yr hoffech chi iddyn nhw gael cydnabyddiaeth am eu hymroddiad? Wel dyna yw diben Cymrodoriaethau Addysgu Prifysgol Cymru.

Mae Prifysgol Cymru yn falch iawn i gyhoeddi bod ei Chymrodoriaethau Addysgu cyntaf wedi’u dyfarnu i Jacqueline Young o Northern College, (NCA), yng Nghaerefrog, Ruth Matheson o Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (UWIC) a Ruth Dineen ac Annie Grove-White, hefyd o UWIC.

Nod y Cymrodoriaethau hyn, sydd werth £5,000 yr un, yw codi proffil dysgu ac addysgu ac annog arferion da yn y Sefydliadau sy’n dyfarnu graddau Prifysgol Cymru a’i Sefydliadau Partner Cydweithredol dramor. Mae Cymrodoriaethau Prifysgol Cymru yn cydnabod ac yn dathlu unigolion sydd yn gwneud cyfraniad eithriadol i brofiad dysgu’r myfyrwyr yn y sefydliadau hyn.

Mae Prifysgol Cymru wedi sefydlu’r cynllun cymrodoriaethau gyda phanel o arbenigwyr ym maes dysgu ac addysgu sydd wedi goruchwylio’r gwaith o ddatblygu’r dyfarniadau ac asesu’r ceisiadau am gymrodoriaethau. Gan gyfeirio at safon uchel yr ymgeiswyr ar gyfer y Gymrodoriaeth, dywedodd un Aelod o’r Panel, Gabriel Jezierski, Pennaeth Polisi a Phartneriaethau (Cymru a Gogledd Iwerddon) yr Academi Addysg Uwch:

“Mae’n  hanfodol i adnabod rhagoriaeth mewn dysgu ac mae cynlluniau fel Cymrodoriaethau Addysgu Prifysgol Cymru yn holl bwysig.”

Gellir defnyddio’r dyfarniadau ar gyfer datblygiad personol a/neu broffesiynol o fewn dysgu ac addysgu, gyda’r cyfan yn fras o fewn thema Uchafu a/neu rannu arfer da.

Ar hyn o bryd, Jacqueline Young sy’n arwain yr MSc mewn Therapi Maethol yn y Northern College yng Nghaerefrog, sy’n cynnig cynlluniau astudio dilysedig Prifysgol Cymru. Mae Jacqueline hefyd yn awdur nifer o lyfrau ar feddygaeth gyflenwol a maeth ac mae wedi dysgu mewn Prifysgolion a Cholegau yn y DU, yr Iseldiroedd, y Dwyrain Pell ac America. Mae’n gwbl ymrwymedig i uchafu profiad y myfyrwyr o ddysgu ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn gwella darpariaeth ar gyfer myfyrwyr sy’n dioddef o ddyslecsia, dyspracsia ac anhwylderau diffyg canolbwyntio (ADD). 

Bydd Jacqueline yn defnyddio Cymrodoriaeth Prifysgol Cymru i hwyluso cysylltiadau rhwng addysgu ac ymchwil a datblygu meddylfryd ymchwil ymysg myfyrwyr. Bydd y Dyfarniad hefyd yn caniatáu iddi ganolbwyntio ar uchafu dysgu ac addysgu sgiliau ôl-fyfyrio i fyfyrwyr yn ogystal â chynnal a hwyluso dysgu i fyfyrwyr ag anawsterau dysgu megis dyslecsia, dyspracsia ac ADD. Mae Jacqueline hefyd yn gobeithio cynhyrchu canllawiau ac adnoddau y gellid eu rhannu â sefydliadau eraill gan gyfeirio’n benodol at eu cyrsiau dilysedig mewn meddygaeth gyflenwol.

Mae Ruth Matheson, sydd hefyd wedi derbyn Cymrodoriaeth, yn Uwch Ddarlithydd yn Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu UWIC. Hi sy’n gyfrifol am hyrwyddo Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) ar draws y sefydliad. Ers ymuno ag UWIC ym mis Mai 2008, mae Ruth wedi datblygu gwefan i hybu DPP, gan ddarparu pecynnau ac adnoddau i helpu staff. Mae Ruth yn rheoli 10 o brosiectau ar draws UWIC â’r nod o uchafu dysgu ac addysgu drwy ymwreiddio technoleg.

Bydd Ruth yn defnyddio ei Chymrodoriaeth i greu rhwydwaith Dysgu’n Seiliedig ar Broblemau / Dysgu’n Seiliedig ar Ymchwilio ar-lein i Gymru. Byddai hyn yn hybu cydweithio ar draws sefydliadau Cymru a hefyd byddai’n gyfle i arddangos y gorau o Gymru i’r byd. Drwy gyflenwi enghreifftiau o arferion cyfredol fel adnodd agored, gobaith Ruth yw y bydd mwy o staff academaidd yn ystyried y fethodoleg hon fel opsiwn dysgu ac y bydd yn hybu trafodaeth ymysg y gymuned addysg uwch yng Nghymru a thu hwnt.

Dyfarnwyd Cymrodoriaeth i Ruth Dineen ac Annie Grove-White fel tîm. Ar hyn o bryd mae Ruth yn Brif Ddarlithydd ar Raglen Cyfathrebu Graffeg yn UWIC ac mae Annie yn Brif Ddarlithydd ar Raglen Cyfathrebu Graffeg a Chyfarwyddwr Datblygiad Myfyrwyr yng Ngholeg Celf a Dylunio Caerdydd (UWIC).

Prif faes ymchwil Ruth yw hybu creadigrwydd mewn addysg ar lwyfan rhyngwladol. Mae wedi cynnal prosiect ymchwil gweithredu cymharol ar addysgu creadigol gyda chydweithwyr o Sefydliad Sichuan yn Tsieina, lle mae’n Athro er Anrhydedd. 

Hwylusodd Ruth ac Annie seminar ddynamig yn 2009 gyda thros 20 o academyddion o sefydliadau celf, cyfryngau a dylunio AU ac AB Cymru i hybu dysgu ac addysgu creadigrwydd drwy sefydlu Canolfan Addysgeg Greadigol mewn Celf, y Cyfryngau a Dylunio yng Nghymru.

Dechreuodd Annie Grove White ei gyrfa fel Darlithydd mewn Astudiaethau Hanesyddol a Beirniadol. Mae ei sylw bellach wedi symud at ymarfer a damcaniaeth addysgu. Ar hyn o bryd mae Annie yn gweithio gyda Ruth ar effeithiolrwydd asesu clywedol mewn cymhariaeth ag adborth ysgrifenedig yn y cyd-destun celf a dylunio.

Bydd Ruth ac Annie yn defnyddio’r Gymrodoriaeth i’w cynorthwyo i sefydlu Canolfan gynaliadwy ar gyfer Addysgeg Greadigol yng Nghymru, sy’n cwmpasu’r holl Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru fel cyfranogwyr a chyfranwyr. Mae eu ffocws cychwynnol ar Gelf, y Cyfryngau a Dylunio, a bydd y dyfarniad yn cael ei ddefnyddio’n rhannol ar gyfer lansio’r Ganolfan mewn Cynhadledd ym mis Medi 2010.

Dywedodd Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Nigel Palastanga:

“Roeddwn i’n un o’r beirniaid ar y cynllun cymrodoriaethau addysgu cenedlaethol am nifer o flynyddoedd ac yn teimlo’n rhwystredig nad oedd Cymru’n rhan ohonynt. Bydd y fenter hon yn gwneud yn iawn am hynny a phan fydd yn rhedeg yn llawn y flwyddyn nesaf, bydd deg o gymrodoriaethau werth £5,000 ar gael. Yn y cyfnod hwn o doriadau mewn addysg uwch, mae Prifysgol Cymru yn buddsoddi mewn amlygu a gwobrwyo addysgu rhagorol.”

Bellach mae Prifysgol Cymru yn edrych ymlaen at gyhoeddi canlyniadau ymchwil derbynwyr y dyfarniadau a chlywed mwy am eu gwaith yn un o’n Cynadleddau yn y dyfodol.

/Diwedd

I gael manylion i’r Wasg a’r Cyfryngau ac am luniau o'r Cymrodorion, cysyllter â Joanna Davies, Pennaeth Cyfathrebu Prifysgol Cymru: cyfryngaucymru.ac.uk| Ffôn: 07534 228754

I gael rhagor o wybodaeth am y Cymrodoriaethau Addysgu cysyllter â: w.chow@wales.ac.uk neu ymweld â: http://www.wales.ac.uk/en/Scholarships/TeachingFellowships/TeachingFellowships.asp|   

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori