Aelod-Sefydliadau blaenorol yng Nghymru
Roedd y Sefydliadau a restrir ar y dudalen hon yn gysylltiedig â Phrifysgol Cymru yn y gorffennol.
Ar gyfer Sefydliadau Cyfansoddol neu Aelod-Sefydliadau, mae hyn yn golygu mai Prifysgol Cymru oedd yn dyfarnu’r holl gymwysterau lefel gradd i fyfyrwyr oedd yn mynychu’r Sefydliad a llawer o ddyfarniadau diploma a thystysgrif hefyd.
Ar gyfer Sefydliadau Achrededig, mae hyn yn golygu bod y mwyafrif o’u cymwysterau’n cael eu dyfarnu drwy Brifysgol Cymru.
Ar gyfer Sefydliadau Cyswllt, mae hyn yn golygu bod nifer llai o’u cymwysterau’n cael eu dyfarnu drwy Brifysgol Cymru.
Cyn Aelodau Cyfansoddol neu Aelod-Sefydliadau
-
Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru (1984-2004) yn flaenorol Ysgol Meddygaeth Genedlaethol Cymru (1931-1984)
-
Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru (UWIST)(1967-1988)
-
Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan (1996 - 2010), yn flaenorol Coleg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan (1971- 1996)
-
Coleg Prifysgol y Drindod (2009-2010), yn flaenorol Coleg y Drindod, Caerfyrddin (1994-2009)
Cyn Sefydliadau Achrededig
Prifysgol Cymru yw’r corff dyfarnu o hyd ar gyfer rhai myfyrwyr cyfredol yn y Sefydliadau hyn ond bydd myfyrwyr newydd o fis Hydref 2010 fel arfer yn cael cynnig dyfarniad y Sefydliad ei hun pan fyddant yn cymhwyso.
Prifysgol Aberystwyth
Cyn Sefydliad Cyfansoddol neu Aelod-Sefydliad a adwaenid fel
-
Prifysgol Cymru, Aberystwyth (1996 - 2010)
-
Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (1893-1996)
Prifysgol Bangor
Cyn Sefydliad Cyfansoddol neu Aelod-Sefydliad a adwaenid fel
-
Prifysgol Cymru, Bangor (1997 - 2010)
-
Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor (1893-1997)
Prifysgol Abertawe
Cyn Sefydliad Cyfansoddol neu Aelod-Sefydliad a adwaenid fel
-
Prifysgol Cymru Abertawe (1996 - 2007)
-
Coleg Prifysgol Abertawe(1920-1996)
Cyn Sefydliad Cyswllt
Prifysgol Cymru yw’r corff dyfarnu o hyd ar gyfer nifer fach o fyfyrwyr cyfredol ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd wedi ymarfer ei phwerau dyfarnu graddau ei hun er 2005.
Prifysgol Caerdydd
Cyn Sefydliad Cyfansoddol neu Aelod-Sefydliad a adwaenid fel
-
Prifysgol Cymru, Caerdydd (1996 - 2004)
-
Coleg Prifysgol Cymru Caerdydd (1988 - 1996)
-
Coleg y Brifysgol , Caerdydd (1972 - 1988)
-
Coleg Prifysgol De Cymru a Mynwy (1893-1972)