Cyfadran
Cymeradwywyd sefydlu Cyfadran i gefnogi gwaith y Brifysgol mewn canolfannau cydweithredu yn Rhagfyr 2009 gan Gyngor y Brifysgol. Pennaeth y Gyfadran yw'r Dirprwy Is-Ganghellor (Dysgu, Addysgu a Gwella), yr Athro Nigel Palastanga, ac mae'n cynnwys tair Ysgol:
• Ysgol y Celfyddydau a'r Dyniaethau
• Yr Ysgol Fusnes a'r Gyfraith
• Ysgol STEM.
Mae gan bob Ysgol Ddeon, sy'n uwch academydd, yn ben arni. Cefnogir y Deon gan Uwch Ddarlithydd/wyr, a staff o sefydliadau Cynghrair Prifysgol Cymru yn gweithredu fel cymedrolwyr. Bydd pob cymedrolydd yn aelod er anrhydedd o Gyfadran y Brifysgol.
Mae staff y Gyfadran yn cefnogi canolfannau cydweithredu drwy weithredu fel cymedrolwyr, cyfrannu mewn ymarferion dilysu ac adolygu, a helpu staff i ddatblygu yn eu priod feysydd. Bydd pob aelod o'r Gyfadran hefyd yn cynnal a diweddaru eu sgiliau addysgu a/neu weithgareddau ymchwil eu hunain.