Yn dilyn y cyhoeddiad a wnaed gan Brifysgol Cymru mewn perthynas â datblygiad y broses uno (gweler datganiad i’r wasg -Ymdeimlad o hanes, dechreuad newydd|), rydym yn cydnabod bod gan fyfyrwyr bryderon neu ymholiadau. Fel sy’n cael ei ddatgan yn gyson, mae gan y Brifysgol ddyletswydd i ofalu am ein myfyrwyr a byddwn yn anrhydeddu ein hymrwymiad i’r holl fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar ddyfarniadau Prifysgol Cymru ar hyn o bryd. Gall myfyrwyr| a chyn-fyfyrwyr| weld rhestr o Gwestiynau Cyffredin sydd wedi eu llunio’n benodol i helpu i ateb unrhyw gwestiynau gan fyfyrwyr sy’n dal i bryderu am y newidiadau hyn.