10 Tip ar gyfer defnyddio'r Campws Byd-eang yn Ddiogel
1. Gochelwch cyn clicio dolenni sydd wedi eich cyrraedd ar negeseuon ffrindiau ar Campws Byd-eang. Dylech eu trin yr un fath yn union â dolenni mewn negeseuon e-bost.
2. Peidiwch â chymryd yn ganiataol fod neges wedi ei danfon gan y sawl y dywedir ei bod oddi wrtho. Gall hacwyr dorri i mewn i gyfrifon a danfon negeseuon sy’n edrych fel petaen nhw’n dod oddi wrth eich ffrindiau, ond na fydd oddi wrthynt go iawn. Os ydych yn amau fod neges yn dwyllodrus, defnyddiwch ffordd arall o gysylltu â’ch ffrind i gadarnhau. Mae hyn yn cynnwys gwahoddiadau i ymuno â rhwydweithiau cymdeithasol newydd.
3. Yn wahanol i rwydweithiau cymdeithasol eraill, ni fydd y Campws Byd-eang yn cynnig defnyddio eich cyfeiriad e-bost a chyfrinair i ddarganfod pwy arall sydd ar y rhwydwaith. Os digwydd hyn, gochelwch – rhyw feddalwedd arall sydd ar waith.
4. Teipiwch gyfeiriad gwefan y Brifysgol neu gyfeiriad y Campws Byd-eang yn uniongyrchol i’ch porwr neu defnyddiwch eich nodwyr personol. Os ydych yn clicio dolen i’ch safle trwy e-bost neu wefan arall, mae’n bosibl y byddwch yn mewnddodi enw a chyfrinair eich cyfrif i wefan ffug lle y gellir dwyn eich gwybodaeth bersonol.
5. Byddwch yn ddewisol wrth dderbyn ffrindiau ar y Campws Byd-eang. Caniateir i fyfyrwyr arfaethedig gofrestru eu hunain ond allwn ni ddim gwarantu fod pawb yn ddilys. Gall troseddwyr greu proffiliau ffug i gael gwybodaeth amdanoch a dwyn eich hunaniaeth.
6. Gwnewch yn siwr eich bod yn deall ein polisi ar breifatrwydd. Gallwch ddewis ychwanegu gwybodaeth bersonol i’ch proffil Campws Byd-eang, ond pwyllwch cyn penderfynu beth i’w ychwanegu a phwy all weld. Cofiwch bob amser y bydd yr wybodaeth bersonol ar eich proffil, eich sylwadau a’ch lluniau, oll yn agored i’r cyhoedd, hyd yn oed os yw’ch proffil yn gyfyngedig i gylch cyfyng o ffrindiau. Gall rhywun ar eich rhwydwaith rannu eich cyfeiriad gwefan neu wybodaeth cyswllt gyda phobl nad ydych yn eu hadnabod – a gall y rheini yn eu tro rannu’r wybodaeth gyda’u ffrrindiau hwythau ac yn y blaen.
7. Tra’n siarad ar-lein, byddwch yn wyliadwrus o bobl sydd am wybod manylion personol amdanoch neu sy’n ymddangos yn eiddgar i’ch cyfarfod.
8. Dylech gymryd yn ganiataol fod popeth a ysgrifennir gennych ar y Campws Byd-eang yn barhaol. Hyd yn oed petaech yn dileu’r cyfrif yn llwyr, gall rhywun ar y Rhyngrwyd yn hawdd fod wedi ei argraffu neu ei arbed i’w gyfrifiadur ei hun cyn hynny. Serch hynny, fe wnawn ni bod ymdrech i gael gwared â phob deunydd ar eich cais.
9. Fel arfer, ni fydd y Campws Byd-eang yn gofyn am gael gosod adnoddau ychwanegol, ar wahân i rai defnyddiau Google. Mae sawl safle rhyngweithio cymdeithasol yn eich galluogi i lwytho adnoddau trydydd parti fel y gallwch wneud mwy gyda’ch tudalen bersonol. Nid ydym ni yn gwneud hyn, am fod troseddwyr yn gallu defnyddio adnoddau o’r fath i ddwyn gwybodaeth bersonol. I lwytho unrhyw ddefnyddiau trydydd parti’n ddiogel, dylech gymryd yr un camau diogelwch a phetaech yn llwytho rhaglen neu ffeil arall o’r We.
10. Meddyliwch ddwywaith cyn defnyddio’r Campws Byd-eang yn y gweithle – fe all fod rheolau sy’n eich gwahardd.