Ymwadiad
Anelwn at gadw’r wybodaeth ar y wefan hon mor gyfoes, perthnasol a chywir â phosibl. Er hynny, gall pethau newid ac fel arfer bydd oedi cyn i newidiadau o’r fath gael eu hadlewyrchu ar y wefan hon. Teimlwn mai’r peth gorau yw eich rhybuddio, felly, i gysylltu â’r Brifysgol neu ag un o’i Sefydliadau cyn gweithredu ar unrhyw wybodaeth wedi ei seilio ar y wybodaeth a geir yma.
Nid yw Prifysgol Cymru yn gwarantu mewn unrhyw ffordd nac yn haeru mewn unrhyw fodd arall fod y wybodaeth a gynhwysir ar dudalennau ei gwefan neu wedi ei chael drwy gyfrwng ei phrosesau chwilio yn gwbl gywir ac nad yw mewn unrhyw fodd yn disodli ei dogfennau a gyhoeddwyd yn ffurfiol : Calendr y Brifysgol. Rheoliadau. Rheolau Sefydlog ac Ordiniannau Academaidd a’r math hynny o ddogfennau a gânt o bryd i’w gilydd eu cyhoeddi.
Ymhellach, ni fydd gwybodaeth ar gyrsiau neu gynlluniau astudio a gafwyd drwy chwilio cynnwys y wefan hon yn awgrymu y gall unrhyw gwrs neu astudiaeth benodol gael eu cynnig gan Sefydliad Prifysgol mewn unrhyw Sesiwn Academaidd benodol.
Ym mhob achos, anogir y person neu’r personau sy’n ceisio gwybodaeth o’r safle hwn i gysylltu’n uniongyrchol â’u dewis Brifysgol neu Sefydliad er mwyn sicrhau cywirdeb a chyfoesedd y wybodaeth cyn ymrwymo’u hunain i deithio neu gostau neu i unrhyw ffordd arall o weithredu