Yr Academi Fyd-Eang
Mae’r Academi Fyd-Eang yn cael ei datblygu gan Brifysgol Cymru a’i phartneriaid strategol gan gynnwys NESTA (Y Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Gwyddoniaeth Technoleg a’r Celfyddydau), Llywodraeth Cynulliad Cymru a sefydliadau o fewn y sector prifysgol yng Nghymru. Ei nod cyffredinol yw hybu perfformiad economaidd ac arloesi Cymru drwy well synergedd rhwng addysg uwch a’r sector preifat. Drwy nifer o raglenni allweddol, bydd yn uchafu gallu arloesi busnesau ac yn hybu eu gallu i ddatblygu prosesau, cynhyrchion, technolegau a gwasanaethau newydd sy’n cael eu harwain gan y farchnad, a thrwy hynny wella potensial arloesi a chystadleurwydd economi Cymru drwy gael rhagor o ymchwil a datblygu a masnacheiddio. Mae gan yr Academi Fyd-Eang swyddfeydd yng Nghaerdydd, Abertawe ac yng Ngogledd Cymru.