Swyddfa'r Is-Ganghellor

Swyddfa'r Is-Ganghellor yw canolbwynt y gwaith o gydlynu busnes y Brifysgol. Yn ogystal â darparu gwasanaeth cefnogol cyfrinachol i'r Is-Ganghellor a'i uwch dîm gweithredol, y Swyddfa sy'n gyfrifol am y canlynol: 

  • cyfathrebu mewnol ac allanol 
  • marchnata a rheoli'r brand 
  • rheoli digwyddiadau 
  • polisi dwyieithrwydd y Brifysgol a chynllun iaith Gymraeg y Brifysgol 
  • gwasanaeth cyfieithu'r Brifysgol 
  • corff cyn-fyfyrwyr y Brifysgol 
  • cyswllt â swyddfeydd y Canghellor, y Dirprwy Ganghellor a Chadeirydd y Cyngor 
  • cefnogi'r Is-Ganghellor wrth gyflenwi agenda 'newydd' y Brifysgol 
  • datblygu a chefnogi gwaith Cynghrair Prifysgol Cymru.