Y Swyddfa Academaidd
Dan arweiniad y Cyfarwyddwr Materion Academaidd, y Swyddfa Academaidd sy'n ysgwyddo'r cyfrifoldebau sy'n codi o brif swyddogaeth y Brifysgol fel corff dyfarnu graddau, gan gynnwys cefnogi strwythur y Brifysgol ar gyfer llywodraethu corfforaethol - y Bwrdd Academaidd, y Bwrdd Ansawdd a Safonau, y Bwrdd Graddau Ymchwil a'r Bwrdd Rheoliadau ac Achosion Arbennig, yn ogystal â grŵp y Brifysgol ei hun ar gyfer ystyriaeth feirniadol o faterion ansawdd academaidd, sef Fforwm y Dirprwy Is-Ganghellor.
Caiff llawer o amser ac ymdrech hefyd eu neilltuo i hyrwyddo a gweinyddu ysgoloriaethau, gwobrau a dyfarniadau cymynrodd er mwyn dod â'r budd gorau posibl i fyfyrwyr cyfredol a myfyrwyr y dyfodol. Ymysg y cyfrifoldebau eraill mae cynhyrchu tystysgrifau gradd a dyfarniadau eraill, cynnal y cofnod hanesyddol o fyfyrwyr, gwisg academaidd y Brifysgol a datblygu ffora priodol i randdeiliaid.
Yn amlwg, mae'r prif gyfrifoldeb am ddatblygu a symud agenda ansawdd ac uchafu'r Brifysgol yn ei flaen hefyd yn gorwedd gyda'r Swyddfa, ac mae gweithgarwch parhaus cyfredol yn cynnwys datblygu meysydd sicrhau cywerthedd, ymglymiad myfyrwyr ac uchafu sy'n briodol yng nghyd-destun y Brifysgol.