Gregynog: Canolfan Gynadledda
Agorwyd Gregynog, rhodd y ddiweddar Miss Margaret S Davies, gan y Brifysgol fel canolfan gynadledda breswyl ym 1964. Mae’n sefyll mewn 750 erw o erddi a choetir ger y Drenewydd, Powys, ac yn cynnig llety preswyl i hyd at gant, gyda chyfleusterau cynadledda dibreswyl i hyd at ddau gant. Prif ddiben Gregynog yw gweithredu fel cyfleuster astudio a chynadledda ar gyfer staff a myfyrwyr prifysgol. Mae’n chwarae rhan bwysig wrth feithrin a chryfhau’r cysylltiadau rhwng sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.
Mae Llyfrgell Gregynog yn cynnwys casgliadau mewn Astudiaethau Celtaidd, y Celfyddydau Cain a Cherddoriaeth. Cynhelir gŵyl o gerddoriaeth glasurol yn y tŷ a’r gerddi yn ystod mis Mehefin bob blwyddyn ac mae Gwasg Gregynog, gwasg celfyddydau cain o fri wedi’i lleoli yn y clos. Mae Gregynog hefyd yn gweithredu busnes masnachol ym maes cynadleddau a lletygarwch.