Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd
Canolfan ymchwil benodol yw Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, sydd â’i staff yn cynnal prosiectau ymchwil amlddisgyblaethol pwysig. Mae ei phrosiectau ar farddoniaeth ganoloesol Gymraeg, diwylliant gweledol Cymru, hanes cymdeithasol yr iaith Gymraeg, yr ieithoedd a hunaniaeth Celtaidd, ac Iolo Morganwg a’r traddodiad Rhamantaidd wedi ennill bri rhyngwladol.
Y mae’r canlyniad ardderchog a gafwyd yn Ymarferiad Asesu Ymchwil 2008, gyda 35 y cant o’r gwaith ymchwil a gyflwynwyd gan y staff o’r safon uchaf yn fyd-eang a 45 y cant o safon ryngwladol ragorol, yn cadarnhau ei statws fel canolfan ragoriaeth ryngwladol ym maes Astudiaethau Celtaidd. Mae’n denu cyllid i gefnogi ei gweithgaredd ymchwil o amrywiaeth o ffynonellau gan gynnwys Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Prifysgol Cymru ei hun a nifer o gyrff elusennol eraill. Yn ogystal, mae’r Ganolfan yn llwyddo i ddenu grantiau i gefnogi ei rhaglen gyhoeddi eang gan gyrff megis Cronfa Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru ac Ymddiriedolaeth Derek Williams ac mae wedi elwa’n aruthrol ar gefnogaeth Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC).
Ym mis Ionawr 2007 llwyddodd y Ganolfan i ennill y grant mwyaf a ddyfarnwyd erioed gan yr AHRC i sefydliad addysg uwch yng Nghymru (£879,383), a fydd yn caniatáu i dîm o ymchwilwyr yn y Ganolfan baratoi golygiad newydd a hygyrch – ar y we ac mewn print – o’r bardd Cymraeg enwog Guto’r Glyn (c.1435–c.1493).
Prif brosiect tymor hir y Ganolfan yw Geiriadur Prifysgol Cymru , geiriadur hanesyddol safonol yr iaith Gymraeg. Ar ran Prifysgol Cymru, y mae’r Ganolfan hefyd yn gweinyddu prosiectau ymchwil tymor byr ar iaith a llenyddiaeth, hanes Cymru, archaeoleg a chelf, a’r gwyddorau cymdeithasol. Y mae hefyd yn gyfrifol am gyhoeddi monograffau, testunau golygedig a llyfryddiaethau, a phedwar cyfnodolyn dysgedig yn enw Prifysgol Cymru.
Er 1993 lleolwyd y Ganolfan mewn adeilad hardd gerllaw Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Meithrinir cysylltiadau agos â chwaer adrannau mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ac yn y gwledydd Celtaidd eraill. Y mae gan y Ganolfan enw da yn rhyngwladol fel sefydliad ymchwil blaenllaw, a rhydd gyfleoedd i’w chymrodyr ymchwil i gynhyrchu gwaith academaidd o’r safon uchaf.