Cyngor y Brifysgol
Cyngor y Brifysgol yw corff llywodraethu goruchaf y Brifysgol gyda chyfrifoldeb am oruchwylio'r modd y mae'r Brifysgol yn cyflawni ei gwaith. Ceir manylion y cyfrifoldebau ffurfiol yn y Siarter| a'r Statudau| , ac mae'r Cyngor hefyd yn ceisio cydymffurfio â'r holl godau ymarfer perthnasol wrth gynnal a rheoli ei weithredoedd. Mae prif fusnes y Cyngor yn ymwneud â nodau ac amcanion strategol y Brifysgol a sicrhau ei hiechyd ariannol.
Mae'r cyfansoddiad cyfredol yn darparu ar gyfer 25 o aelodau, gyda'r mwyafrif o'r rhain yn aelodau annibynnol, y mae eu sgiliau, profiad ac arbenigedd yn adlewyrchu'r ystod lawn o weithgareddau’r Brifysgol. Caiff amrywiaeth o gefndiroedd, gan gynnwys y sector preifat, eu cynrychioli gydag aelodau yn meddu ar y sgiliau a'r arbenigedd angenrheidiol i sicrhau fod Prifysgol Cymru yn cwrdd â'i hamcanion a'i huchelgais a'i bod yn gallu hyrwyddo buddiannau'r Brifysgol mewn meysydd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Cyngor Prifysgol Cymru (Ionawr 2012)
Mr Alun Thomas (Cadeirydd)
Mrs Margaret Evans (Is-Gadeirydd)
Mr Tony Ball
Yr Athro Robert Brown
Ms Kaceigh Burnett
Yr Athro Marc Clement
Mrs Elsa Davies
Mr Huw Wynne Griffith
Yr Athro Medwin Hughes (Is-Ganghellor)
Dr Gerald Lewis
Dr Niall McKenzie
Mr Arwel Ellis Owen
Mr Ceri Preece
Mrs Hilary Neagle
Dr Ann Rhys
Dr Geoffrey Thomas
Ei Anrhydedd y Barnwr Eifion Roberts
Yr Athro David Warner