Canolfannau Cydweithredol

Canolfannau Cydweithredol yw’r sefydliadau a chyrff eraill hynny ledled y byd y mae Prifysgol Cymru’n dilysu un cwrs neu fwy o astudiaeth neu ymchwil ar eu cyfer.

Strategaeth academaidd newydd
Mae Prifysgol Cymru wedi cyhoeddi ei bod yn dod â’i gweithgaredd dilysu i ben yn ei ffurf bresennol. Mae’r Brifysgol yn datblygu model addysgol rhyngwladol newydd, a gaiff ei gyhoeddi maes o law.  

Bydd canolfannau cydweithredol cyfredol yn gallu parhau i recriwtio myfyrwyr yn unol â thelerau eu cytundeb dilysu.

Caniateir i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar raglen Prifysgol Cymru yn unol â’r Cytundeb Dilysu barhau â’u hastudiaethau hyd nes y bydd eu rhaglen gyfredol wedi’i chwblhau.

Mae'r Brifysgol yn dilysu rhaglenni mewn sefydliadau mewn 30 o wledydd; gallwch chwilio am sefydliad neu gwrs trwy ddefnyddio'r Offer Chwilio| arbennig.