|
Yr oedd
hon yn flwyddyn bwysig yn hanes hir y Geiriadur: gosodwyd y
sylfeini ar gyfer dyfodol digidol y Geiriadur. Tra bod hyn yn
digwydd, parhaodd y gwaith manwl o ailolygu’r gwaith yn drylwyr
a chodwyd amheuon am y modd y cyllidir y prosiect yn y dyfodol
wrth i strwythur addysg uwch yng Nghymru gael ei drawsnewid.
Cynnydd
Golygyddol
Mae’r rhan nesaf
o’r Geiriadur, sef Rhan 11 o’r Ail Argraffiad, ar fin mynd i’r
Wasg i’w chyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn. Erbyn hyn mae’r cyfan
o’r rhan ar ôl honno, sef Rhan 12 wedi ei ddrafftio a’i
ragolygu. Bwriedir gorffen y gwaith drafftio sylfaenol hyd
ddiwedd y llythyren B cyn diwedd y flwyddyn academaidd fel y
gall gwaith ddechrau yn syth ar y llythyren C gan ddefnyddio’r
system gyfrifiadurol newydd sydd wrthi’n cael ei pharatoi.
Ymhlith y 1,200 o
erthyglau yn Rhan 11 ceir 120 o eiriau yn dechrau â’r
rhagddodiad bio- (o’u cymharu â’r tri yn unig yn yr
argraffiad cyntaf: bioleg, biolegol a biograffi),
gan adlewyrchu’r oes ‘werdd’ sydd ohoni, o bioactif i
bioystadegaeth, ond hepgorwyd rhyw 71 o eiriau eraill yn
dechrau â bio- gan nad oes gennym ddigon o dystiolaeth
iddynt eto. Ceir erthygl sylweddol ar y gair blodau gyda
detholiad o ryw 72 o gyfuniadau – mwy na dwywaith y nifer yn yr
argraffiad cyntaf – ac mae 19 arall a hepgorwyd oherwydd diffyg
tystiolaeth ddigonol. Diddorol hefyd yw rhai o’r geiriau
cyffredin nad oes ganddynt darddiad hysbys, gan gynnwys
blingo,
bloesg, a boda1
(yr aderyn).
Mae’r tair
Golygydd Cynorthwyol (Mary Williams, Brenda Williams, a Sarah
Down) erbyn hyn wedi magu’r hyder i drin y deunydd cymhleth ac
amrywiol hwn yn fedrus ac yn ddeallus. Rhagolygir eu gwaith yn
drylwyr gan Manon Roberts ac Angharad Fychan, y Golygyddion Hŷn
hynod o brofiadol, y mae arnom ddyled fawr iddynt am eu gwaith
proffesiynol.
Systemau
meddalwedd
Ar ôl
trafodaethau hir gyda nifer o gyflenwyr posibl, dewiswyd cwmni
bach Erlandsen Media Publishing (EMP AB) o Malmö yn Sweden (gynt
o Ddenmarc) yn bartner i’r Geiriadur wrth ddatblygu system olygu
a chyhoeddi newydd. Defnyddir y rhaglen iLEX i baratoi’r
Geiriadur o C ymlaen. Yn anorfod, bu’n rhaid i nifer o’r staff
roi llawer o sylw i ddatblygu’r system newydd yn ystod y
flwyddyn, yn enwedig y Golygydd Rheolaethol a’r Golygyddion Hŷn.
Y cam cyntaf oedd dadansoddi strwythur cymhleth y Geiriadur (gan
gynnwys sut y mae wedi newid yn raddol dros y pedair cyfrol a
dechrau’r ail argraffiad) drwy ystyried yr holl amrywiaeth o
erthyglau a geir yn y gwaith. Paratowyd dogfen o ryw 80 o
dudalennau yn cynnwys dadansoddiad manwl o bob math o wybodaeth.
Hefyd dechreuwyd
llunio ‘Schema’ XML ar gyfer y Geiriadur ar ei newydd wedd.
Pwrpas y sgema yw nodi yn fanwl gywir ac yn ddigamsyniol sut y
cynrychiolir strwythur a data’r Geiriadur yn y gronfa ddata XML
a fydd yn storio’r data yn y dyfodol. Defnyddir safonau
rhyngwladol cydnabyddedig XML (eXtensible Markup Language) a
Unicode (safon ar gyfer dynodi cymeriadau’r rhan fwyaf o
systemau ysgrifennu’r byd) i sicrhau dyfodol hirdymor y prosiect
drwy sicrhau bod modd trosglwyddo’r data o un system feddalwedd
i’r llall os bydd angen. Mae’r safonau hyn mor bwysig yn y byd
cyfrifiadurol cyfoes fel y cânt eu cynnal am flynyddoedd lawer.
Cynhaliwyd dau weithdy gan EMP yn Aberystwyth i ddechrau
cynllunio’r sgema, er mwyn dyfeisio fframwaith ar gyfer trosi
data’r Geiriadur o’i ffurf gyfrifiadurol bresennol i XML
safonol. Mae EMP wedi dechrau eisoes ar y gwaith hir o drosi’r
data (o C–Z yn gyntaf, gan drosi A–B pan fydd y gwaith hwnnw
wedi ei ailolygu’n llwyr). Bydd angen sawl cynnig cyn cyrraedd
safon dderbyniol, mae’n debyg.
Bydd angen llawer
o waith eto i fireinio’r sgema, gwaith a wneir ochr yn ochr â’r
gwaith o drosi’r data. Bydd trosi’r data yn fodd i ddarganfod
gwendidau ac anghysonderau yn y sgema, a bydd ystyried strwythur
y data yn dylanwadu ar y trosi. Cyn trosglwyddo data’r Geiriadur
i EMP, cysonwyd cryn dipyn arnynt yn wyneb anghysonderau a
gwallau a ddarganfuwyd wrth eu dadansoddi yn y cam cyntaf o’r
gwaith. Yn wir, cywirwyd rhai miloedd o wallau ac anghysonderau,
ac achubwyd y cyfle i gynnwys y rhan fwyaf o’r cywiriadau i’r
cyfrolau print a nodwyd dros y degawdau gan y Golygyddion, gan
gynnwys llawer o erthyglau o’r Atodiad ar ddiwedd y gyfrol
gyntaf.
Ni fyddai’r
datblygiadau hyn wedi bod yn bosibl heb haelioni Prifysgol
Cymru. Fel yr adroddwyd y llynedd, derbyniwyd swm sylweddol gan
y Brifysgol tuag at gostau ymgynghorol a chostau meddalwedd. Hyn
sy’n cyllido gwaith EMP i drosi’r data ac i ddatblygu’r sgema.
Rhaid hefyd gydnabod cymorth Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
(CCAUC) a roes grant i’r Ganolfan ar gyfer gwella isadeiledd
ymchwil (Research Capital Investment Fund (RCIF)) dros gyfnod o
dair blynedd gan orffen eleni. Ymhlith llawer o bethau eraill,
neilltuwyd tua thraean o’r swm ar gyfer prynu caledwedd
gyfrifiadurol i’r Geiriadur ar gyfer y datblygiadau newydd.
Adnoddau
caledwedd
Mae Swyddog
Technegol y Geiriadur, Mr Huw Davies, wedi gweithio’n ddiwyd
iawn dros y flwyddyn i ymchwilio i’r galedwedd angenrheidiol ac
i baratoi manyleb o’r cyfarpar. Archebwyd y rhan fwyaf o’r
cyfarpar ym misoedd Mehefin a Gorffennaf, ac erbyn hyn mae’r
cwbl wedi cyrraedd. Prynwyd gweinyddion o safon uchel i ddal
cronfeydd data iLEX, ffeiliau eraill y Geiriadur, i ddarparu
cartref i’r fersiwn electronig o’r Geiriadur a fydd ar gael i’r
cyhoedd, a hefyd i ddiogelu’r data a’u harchifo yn y tymor hir.
Darperir
cysylltiad â’r Rhyngrwyd i’r Ganolfan drwy Lyfrgell Genedlaethol
Cymru a Phrifysgol Aberystwyth. Ers peth amser mae’r Llyfrgell
wedi bod yn ceisio darparu cysylltiad Rhyngrwyd newydd a mwy
dibynadwy a chynigiwyd ein bod yn rhannu eu cyfleusterau newydd.
Erbyn hyn mae gennym gyswllt newydd i’r safonau uchaf â phrif
gysylltiad Rhyngrwyd Prifysgol Aberystwyth yn adeilad See3D Cyf.
(is-gwmni delweddu i’r Brifysgol) drwy gyfrwng ceblau
fibre-optic. Pleser yw diolch i’r Llyfrgell ac yn enwedig i
Reolwr Cyfleusterau’r Llyfrgell, Mr Fred Farrow, am ei gymorth
parod gyda’r holl drefniadau.
Tua’r un pryd,
cytunodd y Ganolfan i lesio Porthdy’r Llyfrgell Genedlaethol er
mwyn cael mwy o le i’r staff a’r myfyrwyr ymchwil newydd.
Cysylltwyd yr adeilad hwnnw ag adeilad y Ganolfan drwy geblau
fibre-optic newydd gyda chymorth parod swyddogion y
Llyfrgell. Sylweddolwyd y gellid defnyddio’r ddau leoliad hyn ar
gyfer gweinyddion diogelu data y Geiriadur (a’r Ganolfan yn
gyfan gwbl). Mantais hyn yw bod y data mewn tri lle diogel
annibynnol peth pellter o’i gilydd ac ar gylchedau trydanol
gwahanol. Golyga hyn y gallwn sicrhau lefel uchel iawn o
ddiogelwch i holl ddata’r Geiriadur a’r Ganolfan. Mae Prifysgol
Aberystwyth wedi cytuno i ddarparu lle i’n gweinyddion diogelu
data yn yr ystafell gyfrifiaduron bwrpasol yn Yr Adeilad
Delweddu, ac rydym yn ddiolchgar iawn i staff yr Adran
Gwasanaethau Gwybodaeth am eu cyngor a’u cymorth. Mantais cadw’r
holl systemau yn Aberystwyth yw bod modd copïo data yn gyflym
iawn o’r naill system i’r llall drwy gysylltiadau mewnol yn
hytrach na defnyddio’r Rhyngrwyd sy’n arafach ac yn llai
dibynadwy.
Cynllunio a
chyllid
Treuliwyd cryn
dipyn o amser ar ddechrau’r flwyddyn academaidd yn paratoi
cynllun manwl am y rhan nesaf o’r gwaith, sef ailolygu’r
llythyren C, ar sail cynlluniau’r gorffennol a dau gynllun
peilot a drefnwyd yn arbennig i gynorthwyo’r proses cynllunio.
Paratowyd cynllun busnes i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
(CCAUC/HEFCW) ar gyfer y cyfnod 2011–23 fel rhan o gais
sylweddol am gyllid. Paratowyd amcanestyniadau ariannol am y
cyfnod 2011–16 gyda chymorth anhepgor Mr Ian George a Mr Richard
Bullen o Swyddfa Gyllid y Brifysgol.
Mae CCAUC bellach
wedi hysbysu’r Brifysgol ei fod yn barod i gefnogi’r Geiriadur
am y tair blynedd nesaf, ond bydd yn adolygu’r sefyllfa wedyn yn
wyneb y toriadau i’w gyllid.
Rydym wedi
dechrau archwilio ffynonellau incwm ychwanegol a byddwn yn mynd
ar drywydd y rhain yn egnïol lle bo hynny'n bosibl. Rydym yn
teimlo y byddai'n anffodus iawn i ysgolheictod yn gyffredinol ac
i drwch poblogaeth Cymru pe bai’r Brifysgol yn cael ei gorfodi i
godi tâl am fynediad electronig i gyfoeth y Geiriadur, ond
gallai fod yn angenrheidiol inni ailystyried modelau trwyddedu
os bydd cwtogi pellach yn y grant a dderbynnir.
Personél
Nid oes newid
wedi bod o ran y staff yn ystod y flwyddyn. Mae dau aelod o’r
staff wedi cael llawdriniaeth ond mae’n bleser adrodd eu bod
wedi gwella’n llwyr erbyn hyn. Roeddem wedi gobeithio creu swydd
Golygydd Cynorthwyol ychwanegol yn ogystal â hanner swydd
Cynorthwyydd Golygyddol er mwyn gwastatáu’r llwyth gwaith, ond
sylweddolwn na fyddai’n bosibl yn yr hinsawdd economaidd
presennol. Serch hynny, llwyddwyd i godi oriau’r Cynorthwyydd
Golygyddol hanner amser presennol (D. Alwyn Owen) o 2½ awr yr
wythnos am gyfnod o ryw 18 mis. Diolchir i Alwyn am ei waith
manwl a diwyd yn paratoi deunyddiau ar gyfer y Golygyddion
Cynorthwyol ac yn gwirio cywirdeb dyfyniadau’r Geiriadur yn
erbyn y testunau gwreiddiol. Braf gweld bod yr oriau ychwanegol
hyn eisoes yn gwella llif y gwaith.
Paratowyd y
cynllun busnes ar sail lefel uwch o staffio. Oherwydd y gwaith
sylweddol a wnaed gan y Golygyddion Hŷn eleni ar ddata’r
Geiriadur cyn eu trosglwyddo i EMP i’w trosi i XML, roedd digon
o waith wedi ei ddrafftio i’w cadw’n brysur drwy gydol yr amser,
ond yn y dyfodol bydd rhaid ystyried penodiad ychwanegol os oes
modd.
Cymwynaswyr
Unwaith eto mae’r
Geiriadur wedi elwa’n sylweddol ar waith y gwirfoddolwyr selog
sy’n darllen y proflenni, gan gynnwys Dr Morfydd E. Owen, Yr
Athro Emeritus Gruffydd Aled Williams, Mr Tegwyn Jones, a hefyd
y Cyfarwyddwr Yr Athro Dafydd Johnston, y Golygydd Ymgynghorol
Yr Athro Emeritus R. Geraint Gruffydd, a’r Ymgynghorydd
Golygyddol Mr Gareth Bevan. Diolchir i’r sawl sy’n cynnig
sylwadau ar y tarddiadau, yn arbennig Yr Athro Peter Schrijver
a’r Athro Stefan Schumacher. Hollbwysig hefyd yw cyfraniadau
ychwanegol i’n casgliad, a diolchir yn enwedig i Dr Bruce
Griffiths a Ms Ann Corkett, ac i Mr Duncan Brown a chriw Llên
Natur am eu cyfraniadau niferus a’u hawgrymiadau gwerthfawr, heb
anghofio’r holl bobl sy’n ateb ymholiadau ebost niferus y staff
ac ymholiadau penodol ar bynciau arbenigol. Mae ein cymdogion yn
yr ystafelloedd darllen yn y Llyfrgell Genedlaethol wedi rhoi
cymorth arbennig a phroffesiynol, ac eleni yn fwy nag erioed
rhaid diolch i Mr Fred Farrow am ei holl gymwynasau technegol ac
felly hefyd i staff Gwasanaethau Gwybodaeth Prifysgol
Aberystwyth. Pleser hefyd yw cydnabod cymwynasau parod Dr
Angharad Elias a Mrs Nia Davies o’r Ganolfan a’n cynorthwyodd yn
arbennig eleni wrth brynu’r offer cyfrifiadurol, a’n holl
gydweithwyr eraill yn y Ganolfan. Fel tîm rydym yn teimlo’n
freintiedig iawn nad yw’r Geiriadur erioed wedi bod yn brin o
gymwynaswyr sy’n fodlon rhoi o’u hamser a’u harbenigrwydd i
wella’r gwaith. Gwerthfawrogir pob cymorth.
Y Dyfodol
O ganlyniad i’r
gwaith a wnaethpwyd yn ystod y flwyddyn, dylai’r system olygu
newydd, y sgema XML ar gyfer y Geiriadur ar ei newydd wedd, a’r
data o C ymlaen ynghyd â’r galedwedd angenrheidiol i gyd fod ar
gael yn ystod y flwyddyn i ddod. Gallwn gael hyfforddiant ar y
system newydd a dechrau arbrofi drafftio a golygu erthyglau cyn
gorffen golygu diwedd B. Bydd hyn yn hwyluso newid o un system
i’r llall heb adael gormod o fwlch.
Bydd y flwyddyn
nesaf yn hollbwysig i ddyfodol y Geiriadur wrth inni roi’r holl
systemau gwahanol at ei gilydd i’n galluogi i ddarparu
gwasanaeth digidol i’n defnyddwyr ac i olygu’r Geiriadur yn ei
ffurf electronig newydd am y tro cyntaf. Gofynnwn am amynedd ein
defnyddwyr: fel sydd eisoes wedi digwydd eleni, bydd y
paratoadau hyn yn ogystal â’n hymdrechion i ddod o hyd i nawdd
i’r cynllun ar gyfer y dyfodol yn anorfod yn arafu llif y gwaith
golygyddol dros dro, ond gobeithiwn y bydd y newidiadau hyn yn
diogelu dyfodol hirdymor y Geiriadur mewn oes ddigidol a llawer
mwy heriol.
|